Cynhadledd Gerdd De Orllewin Cymru
Hyfforddi a Rhannu Arfer Da ar gyfer Athrawon Cerddoriaeth Peripatetig
Mae tocynnau i’r digwyddiad hwn am ddim ond rhaid archebu ymlaen llaw.
Mae Cynhadledd Cerddoriaeth De Orllewin Cymru yn cael ei chynnal yn: Neuadd Brangwyn, Abertawe, SA1 4PE
Fel rhan o raglen ddysgu broffesiynol Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol Cymru, mae’n bleser gennym eich gwahodd i’r gynhadledd hyfforddiant a rhannu arfer da 2 ddiwrnod i athrawon cerdd peripatetig yn Neuadd Brangwyn, Abertawe ddydd Mercher a dydd Iau 6 a 7 Medi 2023 – 9:00am – 4:00pm.
Ar amser mor gyffrous yn hanes addysg cerddoriaeth yng Nghymru, nid oes amheuaeth fod y cyfle i ddod ynghyd fel addysgwyr cerddoriaeth yn hynod werthfawr.
Bydd gennym y cyfle i ddatblygu ein dealltwriaeth o’r cwricwlwm newydd i Gymru, ystyried technegau addysgu yn yr ystafell ddosbarth, archwilio ffyrdd o sicrhau ein bod yn gynhwysol wrth gyflwyno’r pwnc ac archwilio adnoddau cerddoriaeth ar y stondinau masnach addysg gerddoriaeth.