Blended and Distance Learning

Dysgu Cyfunol ac o Bell

Dysgu cyfunol ac o bell yw’r arfer newydd. Yn Abertawe yr ydym yn hoffi bod yn rhagweithiol pan ddaw’n fater o addysg plant.

Mae coronafeirws yn drychineb fyd-eang, ond mae hefyd yn gyfle i ddysgu disgyblion a phobl ifanc mewn ffyrdd na wnaed erioed o’r blaen.

Gobeithiwn y bydd ysgol rithwir Abertawe yn helpu i alluogi rhieni, gofalwyr, athrawon, academyddion a staff addysg i gyflawni eu rolau wrth ddarparu cyfleoedd addysgol i ddisgyblion a phobl ifanc sy’n eu helpu i lwyddo drwy gydol eu hoes.

Cymorth i Rieni a Gofalwyr

A yw eich plentyn yn dysgu gartref drwy ddysgu cyfunol neu o bell yn Abertawe? Mae gennym rai adnoddau, cefnogaeth a chyngor defnyddiol a allai eich helpu.

Adnoddau i Athrawon

Mae athrawon, academyddion a staff addysg yn Abertawe wedi dod ynghyd i greu a rhannu rhai adnoddau ardderchog i’ch helpu gyda dysgu cyfunol ac o bell.

Datblygiad Proffesiynol Parhaus

Gweithio o gartref? Yr ydym wedi curadu detholiad o gyrsiau ar-lein ac adnoddau sydd ar gael am ddim i athrawon, academyddion, a staff addysg.

Diolch Abertawe

Caiff ysgol rithwir Abertawe ei diweddaru’n rheolaidd i ddarparu’r adnoddau gorau posibl i rieni, gofalwyr, athrawon, academyddion a staff addysg. Fodd bynnag, nid yw ein safle yn disodli unrhyw waith y mae ysgolion a staff addysgu yn ei ddarparu’n uniongyrchol i’w disgyblion. Heb y staff addysgu, ni fyddai dim o hyn yn bosibl.

Hoffem ddiolch i’r holl rieni, gofalwyr, athrawon, academyddion a staff addysg am eu cymorth gyda ysgol rithwir Abertawe a hefyd gyda’r bobl ifanc y maent yn gofalu mor angerddol drostynt. Cadwch yn ddiogel.

Diolch Abertawe

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch neu os oes angen y wybodaeth arnoch mewn fformat amgen e.e. print bras ac ati, cysylltwch â [email protected].