Cynhadledd Gerddoriaeth 2023 – Gwesteion

Gwesteion

Rachel Cooper

Ganwyd Rachel Cooper yn Ne-orllewin Lloegr a dechreuodd ganu’r ffidl pan oedd hi’n 4 oed. Aeth ymlaen i astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Chichester lle cafodd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf am ei pherfformiad ar y ffidl.

Rachel Cooper

Liz Stafford

Dr. Liz Stafford yw cyfarwyddwr y cwmni ymgynghori addysg cerddoriaeth byd-eang, Music Education Solutions®, golygydd Primary Music Magazine, ac awdur The Primary Music Leader’s Handbook (Harper Collins).

Liz Stafford

Helen Mead

Mae Helen Mead wedi bod yn athrawes gynradd ac yn arbenigwraig cerddoriaeth am dros ugain mlynedd. Mae hi wedi gweithio i hybiau cerddoriaeth lleol fel athrawes offerynnol beripatetig ac athrawes y cwricwlwm cerddoriaeth a threuliodd 11 mlynedd fel yr arweinydd cerdd mewn ysgol gynradd ganol dinas fywiog yn Southampton.

Helen Mead

Sarah Lloyd

Mae Sarah Lloyd yn arbenigwraig cerddoriaeth gynradd a chanddi dros ugain mlynedd o brofiad. Mae’n hyfforddi ac yn mentora arweinwyr ac athrawon anarbenigol i ddatblygu darpariaeth gerdd ac addysgu cerddoriaeth yn eu hysgolion.

Sarah Lloyd

Sam Stimpson

Mae Sam Stimpson (hi) yn ymgynghorydd Addysg Cerddoriaeth a Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiad arobryn, yn gymrawd Clore ac yn Sylfaenydd a Rheolwr-gyfarwyddwr SLS 360, cwmni ymgynghoriaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiad.

Mae ei gwaith yn cefnogi, yn herio ac yn grymuso unigolion a sefydliadau i fod yn feiddgar ac yn ddewr yn eu gwaith i ddileu anghyfiawnder a gwahaniaethu a pheri newid cadarnhaol.

Sam Stimpson

Lucy Clement-Evans

Ymarferydd Ewrhythmeg Dalcroze a Kodály cymwys yw Lucy Clement-Evans, sy’n arbenigo mewn gweithio gyda phlant dan 7 oed.  Mae’n mwynhau helpu plant i ddysgu am gerddoriaeth wrth ganu, symud a chael llawer o hwyl!

Lucy Clement-Evans

Chris Fower

Mae Chris yn addysgwr, arweinydd ac arloeswr mewn dysgu offerynnau pres. Ar ôl hyfforddi yng Nghonservatoire Leeds a’r Academi Gerdd Frenhinol, aeth ymlaen i fwynhau gyrfa perfformio llawrydd lwyddiannus ochr yn ochr ag ymgynghori gwneuthurwyr offerynnau pres.

Chris Fower

Arddangoswyr