Gwersi

Rydym yn hapus i rannu amrywiaeth o wersi ar-lein, a grëwyd gan staff addysgu yn Abertawe, i ddysgwyr o bob oed allu cael mynediad iddynt gartref.

Os byddwch chi’n gwylio’r gwersi byr a phleserus ac yn cynhyrchu unrhyw beth diddorol wedyn, mae croeso i chi eu hanfon i’ch ysgol, e-bostio nhw atom ni, neu os ydych chi dros 13 oed, rhannwch nhw trwy gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #YsgolRithwirAbertawe.

Edrychwn ymlaen at weld beth rydych chi wedi’i greu a’i gwblhau!