ADY – Plant PGCM

Plant PGCM

Plant PGCM

Cynhyrchwyd y deunyddiau hyn gan Ddinas a Sir Abertawe at ddibenion anfasnachol i helpu i ddatblygu sgiliau canolbwyntio a gwrando pob disgybl rhwng 4 ac 8 oed, gan gynnwys y rhai sydd efallai ag ADD (anhwylder diffyg canolbwyntio) neu ADHD (anhwylder diffyg canolbwyntio gyda gorfywiogrwydd).

Fe’u datblygwyd gan dîm o athrawon arbenigol a seicolegwyr addysg trwy gymorth amrywiaeth o adnoddau a ddatblygwyd gan aelodau’r grŵp eu hunain yn eu gwaith gyda phlant, ac adnoddau eraill sydd ar gael mewn print neu ar y rhyngrwyd, a gafodd eu haddasu a’u cyfuno i greu’r adnoddau hyn.

Yna cafodd y rhain eu treialu mewn amrywiaeth o ysgolion babanod a chynradd yn Ninas a Sir Abertawe a roddodd adborth manwl ar y gweithgareddau ac yna cafodd y rhai a ystyriwyd y mwyaf defnyddiol a difyr gan yr athrawon a’r plant eu cynnwys yn y llyfryn hwn.

Gobeithiwn y bydd yr adnodd am ddim o fudd i athrawon, cynorthwywyr addysgu, rhieni ac unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant.

Cliciwch yma i lawrlwytho’r llyfryn 

Cefnogir y cyhoeddiad hwn trwy grant addysgol a ddarparwyd trwy garedigrwydd SHIRE.

Dolenni i awduron, cyhoeddwyr a gwefannau a fu’n ddigon caredig i ni ddefnyddio eu hadnoddau yn y prosiect hwn: