Cynlluniwyd y tudalennau gwe hyn fel adnodd i gyfeirio staff mewn ysgolion at ddeunyddiau cymorth iechyd meddwl o amrywiaeth o ffynonellau. Y gobaith yw, trwy gefnogaeth effeithiol a hunanofal, y gall unigolion ddod o hyd i fecanweithiau ymdopi ar gyfer yr heriau y mae bywyd yn eu taflu i’n ffordd. I’r rhai sy’n gweld bod angen cymorth pellach, mae’r wefan hon hefyd yn darparu’r ffurflenni angenrheidiol ar gyfer hunangyfeirio i wasanaeth cwnsela penodol ar gyfer Rheoli Straen Abertawe.
Cliciwch ar y delweddau isod i lywio i’r adnoddau hyn
Adnoddau ar gyfer ysgolion
Er ei bod yn hollbwysig eich bod yn gofalu am eich iechyd meddwl eich hun yn gyntaf (“gwisgwch eich mwgwd ocsigen eich hun cyn helpu eraill”). Rydym hefyd wedi cyfuno rhestr o ddeunyddiau cymorth a allai fod o fudd i arweinwyr ysgol wrth gefnogi staff a dysgwyr ifanc ar draws ein hysgolion.
Cymorth ymhellach
Ieuan Williams
Helo, mae’n wych bod yn Gynghorydd Rheoli Straen a Chynghorydd sy’n cefnogi ysgolion. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda chi i gyd. Rwy’n dod o Ben-bre yn wreiddiol ac ar ôl gadael yr ysgol bûm yn gweithio ym Mynea fel peiriannydd cyn ymuno â’r Fyddin Brydeinig. Yn swyddogol, roeddwn bob amser yn beiriannydd, ond ar ôl hyfforddiant meddygol uwch es i ar secondiadau i gynorthwyo’r GIG, gan gwirio cerbydau ymateb brys ac yna hyfforddiant a lleoliadau pellach ar draws y byd.
Amlygwyd fy mhrofiadau’r angen i ennill sgiliau mewn iechyd meddwl. Gyda chymeradwyaeth y Fyddin Brydeinig fe hyfforddais mewn hypnotherapi uwch, cwnsela seicodynamig sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a Therapi Maes Meddwl. Yna, Therapi Gwybyddol Ymddygiadol, Cyfiawnder Adferol, Dadsensiteiddio ac Ailbrosesu Symudiad Llygaid a llawer mwy. Hyfforddwyd i ddechrau er mwyn cefnogi milwyr, eu plant a’u teuluoedd, ond lledaenwyd hyn i eraill. Buaswn yn aml yn cyflwyno hyfforddiant i helpu hysbysu ac addysgu pawb hefyd.
Yn fwy diweddar rwyf wedi helpu staff a’u cleientiaid mewn elusen fawr. Rwyf hefyd wedi helpu athrawon mewn Sefydliadau Troseddwyr Ifanc Ei Mawrhydi i gadw’n ddiogel, cael eu cefnogi a chael y cymorth angen i ddod o hyd i atebion realistig i broblemau anodd, yn aml mewn sefyllfaoedd heriol. Ar hyn o bryd rwy’n oruchwylydd clinigol o gwnselwyr a therapyddion gydag arbenigedd mewn argyfwng, trawma a nifer o anhwylderau . Rydw i yma i helpu, bob amser yn hapus i helpu ac yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda chi i gyd.
Hybu lles ar gyfer pawb
Mae pawb yn Bencampwr Lles pan inni’n gallu fod!
Bydd unrhyw un sy’n croesawu plant a staff newydd i ysgol, yn garedig a chymwynasgar, hyrwyddo heddwch, hapusrwydd, tewch ac iechyd da. Byddant yn hyrwyddo ymdeimlad o berthyn, cysylltiad â chynhwysiant i ddatblygu perthynas gadarnhaol o berson i berson gyda phawb eisoes yn bencampwyr lles.
Efallai bod gennym ni angerdd dros iechyd a lles yn barod. Efallai ein bod eisoes yn ei hyrwyddo, gan godi ymwybyddiaeth o fentrau trwy rannu gwybodaeth i helpu pawb a gwneud gwaith gwych fel “Arfer Dda”. Mae’n bosib eich bod mewn sefyllfa dda yn ein maes gwaith i adnabod heriau neu newidiadau a chynnig cymorth a chefnogaeth. Efallai eich bod eisoes wedi trawsnewid yr hyn a allwn o’n hamgylchedd i gael mannau cyfforddus, diogel ac ymlaciol i bobl eu mwynhau pan fyddant yn gallu.
Rydym yn cydnabod nad yw lles yn y gweithle yn rhywbeth inni “eisiau cael neu yn neis i gael”. “Mae’n rhaid ei gael nawr”. Gyda straen, iechyd meddwl, gorbryder ac iselder yn achosi’r mwyafrif o absenoldebau salwch o’r gwaith. Mae dangos ein bod ni’n gofalu ac eisiau helpu wir yn gwneud gwahaniaeth. Mae llesiant yn ymwneud â’r diwylliant rydyn ni’n ei greu sy’n gwneud i bobl deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu hymddiried yno a’u cefnogi. Mae’n rhaid i bawb weithio arno, felly gadewch i ni wneud y gwahaniaeth hwnnw gyda’n gilydd. Rydw i yma i helpu.
Dewch i ni sgwrsio’n fuan. Rhowch wybod i mi am bethau rydych chi’n eu gwneud, yn eu hystyried neu’r hyn y gallaf eich helpu ag ef. Gadewch inni ffocysu ar yr hyn sydd angen digwydd er mwyn iechyd a lles pawb. Byddaf hefyd yn ymuno â chi ar gynifer o’ch cyfarfodydd fel y gallaf eich helpu …. ac nid i rwystro.
E-bostiwch fi ar: [email protected]
Help Llaw
Mae’r Gwasanaeth Help Llaw yn cael ei gydlynu a’i ddarparu gan dîm o staff gwirfoddol hyfforddedig a’i reoli gan y tîm Cyngor a Chwnsela Rheoli Straen.
Mae Help Llaw yn cynnig cymorth, gwybodaeth ac arweiniad i weithwyr drwy ddarparu gwasanaeth cymorth cyfrinachol dros y ffôn, ystod o weithdai lles a gwasanaeth galw heibio.
Cysylltwch â Ieuan Williams am wybodaeth pellach – [email protected]
“Ray’s Walk & Talk”
Mae gennym hefyd grŵp cerdded a siarad sy’n cyfarfod yn fisol ar ail Sul pob mis. Mae hyn hefyd yn rhan o’r Gwasanaeth Help Llaw. Am fwy o wybodaeth am hyn, cysylltwch â Ray Mitchel ar 07759913592 neu [email protected]
Gerddi Therapi
Mae’r Gerddi Therapi ym Mharc Singleton yn ofod i staff sgwrsio wrth iddynt fwynhau’r gerddi a gwneud rhywfaint o arddio os dymunant. Mae hwn yn rhan o’r Gwasanaeth Help Llaw a gellir ei fwcio drwy gysylltu ag Andi Plastiras: 07976784155.
Mynediad i gwnsela
Mae bellach yn bosibl hunangyfeirio i gael mynediad at 6 sesiwn o gymorth cwnsela gan y Gwasanaeth Rheoli Straen a Chwnsela. Er mwyn cael mynediad at y gwasanaeth hwn cwblhewch y ffurflen gyfeirio isod a’i dychwelyd i:
Gwasanaeth Rheoli Straen a Chwnsela, Ystafell 151, Y Guildhall, Abertawe SA1 4PE neu ebostiwch [email protected]
Mae’r tîm yn ymdrechu i gysylltu o fewn 72 awr o dderbyn eich ffurflen, tra bod sesiynau cwnsela fel arfer yn dechrau 4-6 wythnos yn dilyn hyn.