Pam ydym ni mewn perygl?
Mae’r proffesiwn yn gallu fod yn wobrwyol iawn. Mae hefyd ar adegau yn heriol sy’n gosod y bobl sy’n gweithio o’i fewn mewn perygl os nad ydynt yn ymarfer hunan ofal. Mae esgeuluso hunan ofal yn gallu gosod gweithwyr mewn perygl emosiynol a chorfforol cynyddol oherwydd:-
- Mae’r gwaith yn gofyn am ‘ymgysylltiad empathetig’ gyda’n dysgwyr, eu teuluoedd ac ein cyfoedion drwy’r amser
- Rydym yn gorfod ymwneud a trawma person arall drwy’r amser
- Mae yna angen i ‘wneud synnwyr’ a rheoli ein byd
- Rydym bob amser yn helpu, gwrando a chynorthwyo eraill
- Mae pobl yn tynnu oddi wrth ein egni drwy’r amser (ni all gar redeg heb danwydd!)
- Mae rhai dysgwyr yn gorfforol heriol
- Mae newid ym myd Addysg drwy’r amser
- Ceir her pwysau gwaith sy’n amharu ar gydbwysedd gwaith/bywyd
Mae y rhain yn cronni dros amser!
Wynebau Trawma
Trawma Dirprwyol
Mae Trawma Dirprwyol yn broses o newid sy’n digwydd oherwydd eich bod yn gofalu am bobl eraill sydd wedi cael niwed a bod gennych deimlad o gyfrifoldeb neu ymroddiad tuag atynt. Dros amser, mae’r broses yma’n gallu arwain at newid seicolegol, corfforol a lles ysbrydol. Nid yn unig eich ymateb i un person, un stori neu sefyllfa ydyw. Mae’n effaith cynyddol o gysylltiad gyda goroeswyr.
Trawma Eilaidd
Trawma Eilaidd yw’r pwysau emosiynol ar unigolyn o ganlyniad i glywed profiadau trawmatig eraill. Mae’r symptomau yn ddigon tebyg i PTSD (Post-Traumatic Stress Disorder).
Blinder Tosturiol
Mae Blinder Tosturiol yn gyflwr lle gwelir nodweddion trugaredd yn gostwng dros gyfnod o amser, weithiau gwelir nodweddion rhwystredigaeth tuag at bobl.
Llosgi Allan
Blinder llethol, diffyg brwdfrydedd a chymhelliant. Teimlo’n aneffeithiol, hefyd elfennau o rwystredigaeth neu sinigiaeth. O ganlyniad gweler diffyg effeithiolrwydd yn y gweithle. Ei achos yn aml iawn yw straen parhaol (hir).