Awareness (Ymwybyddiaeth)
- Beth yw’r arwyddion cynnar?
- Oes angen gwneud newidiadau…… yn eich gwaith? eich strategaethau gofal personol?
- Dod yn ymwybodol o’ch gofynion, cyfyngiadau, emosiynau ac adnoddau
- Ymarferwch: hunan-fonitro a hunan-empathi
- Adnabyddwch effaith o waith : yn emosiynol, seicolegol, corfforol ac ysbrydol
Adnabyddwch eich hanghenion eich hun. Mae’n IAWN i ofyn am help!
Balance (Cydbwysedd)
- Beth yw eich gweithgareddau ar gyfer gwaith, chwarae a gorffwys? Oes unrhyw beth allan o gydbwysedd?
- Dangoswch drugaredd diamod ichi eich hunain
- Oes angen ichi gyfyngu amlygiad i wybodaeth drawmatig tu allan i’r gwaith, h.y. ystyriwch beth ydych ch’n gwylio ar y teledu?
- Sut allwch chi reoli gwaith i adfer ac ailgyflenwi’r cydbwysedd?
- Sut allwch chi gadw cysylltiad empathetig gyda phellter hunan-gadw yn eich gwaith?
- Ydych chi’n gallu cyflwyno camau rhagweithiol i osgoi llosgi allan?
- Wrth wynebu straen galwedigaethol ‘tend and befriend’ yn hytrach na ‘fight or flight’.
Connection (Cysylltiad)
Mae cysylltiadau cyfeillgarwch, perthnasau a chysylltiadau yn ogystal a chyfranogiad mewn hwyl a sbri yn golygu ein bod yn cael seibiant cyson. Mae hyn yn helpu ni i gynnal safbwynt bywyd go iawn.
- Sut ydych chi’n cynnal cysylltiad gyda’ch hunain, eraill a rhywbeth mwy?
- Sut ydych chi’n gwrthynysu (yn enwedig pan y’ch chi’n teimlo’n gwrthgymdeithasol) neu ydy ynysu eich hun yn help i’ch hadfer?
- Datblygu a chynnal nifer o berthnasau positif – efallai byddai’n dda considro y rhain o du allan i’r amgylchedd gwaith weithiau