Rhestr Ddarllen
Closing the Reading Gap, Alex Quigley
- Yn y llyfr diddorol hwn, mae Alex Quigley’n archwilio’r wybodaeth a’r sgiliau y mae eu hangen ar athrawon darllen arbenigol er mwyn addysgu darllen a meithrin awydd y disgyblion i ddarllen. Os ydych chi’n datblygu cwricwlwm darllen yr ysgol, bydd y llyfr hygyrch ac amserol hwn, sy’n llawn strategaethau ymarferol, yn ased gwerthfawr. Wrth esbonio cymhlethdodau darllen mewn ffordd sgyrsiol ac apelgar, ac wrth dalu sylw penodol i fetawybyddiaeth, mae Alex yn cynnig gwybodaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn ailystyried darllen a’r chwe cham i gau’r bwlch darllen. Llyfr sy’n werth ei brynu.
Teaching WALKTHRUs, Tom Sherrington ac Oliver Caviglioli
- Daw Tom Sherrington ac Oliver Caviglioli at ei gilydd i gyflwyno 50 o dechnegau addysgu hanfodol, a chyflwynir pob un ohonynt gyda phum darlun clir a chryno ac esboniadau. Mae’n ffurfio ystorfa unigryw o ddulliau addysgu allweddol, sy’n werthfawr i unrhyw ymarferwyr ystafell ddosbarth mewn unrhyw leoliad. Mae’r llyfr yn cynnwys technegau ymarferol pwysig ym meysydd ymddygiad a pherthnasoedd; cynllunio’r cwricwlwm; esbonio a modelu; cwestiynu ac adborth; ymarfer ac adalw; ac addysgu Dull B. Caiff pob techneg ei hesbonio’n syml trwy bum cam byr â darluniau hyfryd, er mwyn ceisio gwneud synnwyr o syniadau cymhleth a chefnogi dysgu myfyrwyr.
Teachers Vs Tech?, Daisy Christodoulou
- Mae Daisy yn mynd i’r afael â dwy ochr y ddadl ed tech wrth ateb y cwestiwn hwn, gan feirniadu cyfleoedd a gollwyd ynglŷn â sut rydym yn dysgu, yn ogystal â meysydd llwyddiant. Wedi’i wreiddio mewn ymchwil, ac wedi’i ysgrifennu o safbwynt yr addysgwyr, Teachers vs Tech? yn archwilio ystod eang o bynciau o wyddoniaeth dysgu ac asesu, i bersonoli, a phwysigrwydd parhaus addysgu ffeithiau. Mae’n archwilio enghreifftiau rhyngwladol o raglenni addysgu digidol brand mawr a busnesau newydd sydd ar ddod wrth ystyried yr hyn sydd wedi gweithio’n dda ac nad yw wedi gweithio’n dda. Mae Daisy yn tynnu trwy ei phrofiad yn yr ystafell ddosbarth ac o weithio yn y gymuned addysg. Mae hi’n amlinellu gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer y dyfodol: un lle mae technoleg yn cael ei datblygu ar y cyd ag arbenigedd athrawon, ac yn y pen draw yn cael ei defnyddio i wella canlyniadau addysgol i bawb.
How Learning Happens, Paul A.Kirschner a Carl Hendrick
Seminal Works in Educational Psychology and What They Mean in Practice
- “Gofynnwyd i mi yn aml i argymell testun cychwynnol ar gyfer addysgwyr sydd â diddordeb mewn sut mae’r meddwl yn gweithio – nawr mae gen i un. Mae’r testun y mae Kirschner a Hendrick yn ei gynnig ochr yn ochr â phob erthygl arloesol yn gwneud gwaith gwych o leoli’r cynnwys yn y cyd-destun gwyddonol ehangach, ac yn yr ystafell ddosbarth”.
Why Don’t Students Like School, Daniel T Willingham
- Mae Daniel Willingham yn ateb cwestiynau ynglŷn â sut mae’r meddwl yn gweithio a beth mae hyn yn ei olygu i’ch ystafell ddosbarth. Bydd y llyfr hwn yn help athrawon i wella’u harfer drwy esbonio sut maen nhw a’u myfyrwyr yn meddwl ac yn dysgu – gan ddatgelu pwysigrwydd stori, emosiwn, cof, cyd-destun a threfn wrth adeiladu gwybodaeth a chreu profiadau dysgu parhaol.
Why Knowledge Matters, E.D. Hirsch
- Mae’r llyfr hwn yn mynd i’r afael â materion hollbwysig wrth ddiwygio addysg gyfoes ac yn dangos sut mae gwirebau a drysorwyd am addysg a datblygiad plant wedi arwain at ganlyniadau anfwriadol a negyddol.
Seven Myths, Daisy Christodoulou
- Gan ddefnyddio’i phrofiad o addysgu mewn ysgolion heriol, trwy ystod eang o enghreifftiau ac astudiaethau achos, mae hi’n dangos sut mae ymarfer ystafell ddosbarth yn gwrth-ddweud egwyddorion gwyddonol sylfaenol.
Rosenshines’s Principles in Action, Tom Sherrington
- Cydnabyddir egwyddorion cyfarwyddyd Barak Rosenshine yn eang am eu heglurdeb a’u symlrwydd a’u potensial i gefnogi athrawon sy’n ceisio ymgysylltu â gwyddor gwybyddiaeth a byd ehangach theori addysgeg. Mae’r llyfr hwn yn ymhelaethu ar yr egwyddorion ac yn ychwanegu atynt, ac yn dangos ymhellach sut y gellir eu rhoi ar waith mewn ystafelloedd dosbarth bob dydd.
Teacher Like A Champion 2.0, Doug Lemov
- Yn seiliedig ar dystiolaeth a gasglwyd gan athrawon go iawn mewn ystafelloedd dosbarth go iawn, mae’r llyfr hwn yn cynnig technegau pendant, sy’n hawdd i athrawon eu rhoi ar waith er mwyn cynnal diddordeb eu disgyblion, a sicrhau eu bod yn canolbwyntio ac yn dysgu.
Cleverlands, Lucy Crehan
- Fel athro mewn ysgol yng nghanol y ddinas, roedd Lucy Crehan wedi’i chythruddo gan bolisi’r llywodraeth a oedd yn newid yn gyson gan honni ei fod yn seiliedig ar wersi o systemau addysg “sy’n perfformio orau”. Penderfynodd geisio darganfod beth oedd yn digwydd mewn gwirionedd yn ystafelloedd dosbarth gwledydd lle roedd eu harddegwyr ar y brig o ran darllen, mathemateg a gwyddoniaeth.
Closing the Vocabulary Gap, Alex Quigley
- Yn Closing the Vocabulary Gap, mae’r awdur yn archwilio sut y gallai cau’r bwlch geirfa rhwng ein myfyrwyr ‘tlawd’ eu geirfa a’n myfyrwyr ‘cyfoethog’ eu geirfa brofi’r gwahaniaeth pwysig rhwng llwyddiant a methiant ysgol.
How I wish I’d Taught Maths, Craig Barton
- Gwersi a ddysgwyd o waith ymchwil, sgyrsiau ag arbenigwyr a 12 mlynedd o gamgymeriadau. Ni waeth beth yw’ch profiad, eich arddull addysgu neu eich hoff rif, bydd pob athro mathemateg yn dod o hyd i rywbeth i feddwl amdano yn y llyfr hwn.
Making Kids Cleverer, David Didau
- Yn Making Kids Cleverer: A manifesto for closing the advantage gap’, mae David Didau yn ailgynnau’r drafodaeth natur yn erbyn magwraeth ynghylch deallusrwydd ac yn cynnig arweiniad ar sail ymchwil ar sut y gall athrawon helpu eu myfyrwyr i ddatblygu stôr gadarn o wybodaeth a sgiliau sy’n bwerus ac yn ddefnyddiol.
Boys Don’t Try?, Matt Pinkett a Mark Roberts
- Yn Boys Don’t Try? mae Matt Pinkett a Mark Roberts yn cysylltu tangyflawniad addysgol cymharol bechgyn yn uniongyrchol ag ymdrechion annoeth i anelu at “syniad hen ffasiwn, ond serch hynny, syniad cyffredin” am yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn “ddyn go iawn” a “math o wrywdod sy’n llethu llawer o fechgyn”.
Making Good Progress?, Daisy Christodoulou
- Sut mae rhywun yn ymgymryd â chenhedlaeth gyfan o asesiad ysgol sydd wedi mynd ar gyfeiliorn? Mae dewrder a dyfalbarhad Daisy Christodoulou wrth wneud yr union beth hwnnw, yn haeddu’r un ganmoliaeth â’i heglurder deallusol. Mae angen dewrder i amlygu arferion a oedd yn llawn bwriadau da, ac sydd, lle roedd gwaelodlinau’n isel, wedi sicrhau gwelliant. Nid yw’r llyfr hwn yn potsian yn dringar â’r problemau; yn hytrach mae’n ymosodiad dinistriol ar y sefyllfa bresennol ac mae’n galw ar newid i’r drefn arferol.
The Curriculum – Gallimaufry to coherence, Mary Myatt
- Mae pobl yn siarad am wybodaeth a’r cwricwlwm yn gynyddol ar draws y system. Yn y llyfr pwysig ac amserol hwn, mae Mary Myatt ar ei gorau wrth iddi ddadlau’n angerddol fod yr atebion i oresgyn y rhwystrau i gyflawniad i’w cael trwy ddeall y cwricwlwm ac yn yr hyn y mae plant i fod i wybod.
The Learning Rainforest, Tom Sherrington
- Mae’r llyfr hwn yn cynnwys elfennau gwahanol o’n dealltwriaeth a’n profiad o grefft a gwyddor addysgu. Mae’n ddathliad o addysgu gwych ynghyd â’r gwobrau deallusol a phersonol a ddaw yn ei sgîl. Mae’n llyfr ar gyfer pob athro; pobl brysur sy’n gweithio mewn amgylcheddau cymhleth nad oes ganddynt lawer o amser rhydd.
The Science of Learning, Busch a Watson, 2019
- Mae The Science of Learning yn dadansoddi ymchwil gymhleth i ddarparu ffeithiau sydd eu hangen ar athrawon ynghyd â goblygiadau pob astudiaeth. Mae pob trosolwg yn cyfuno graffeg a thestun, yn gofyn cwestiynau allweddol ac yn disgrifio ymchwil gysylltiedig ac yn ystyried goblygiadau ar gyfer arfer. Mae pob trosolwg, sy’n hygyrch iawn, yn cael ei briodoli i un o saith categori allweddol:
-
- Cof: cynyddu faint mae myfyrwyr yn ei gofio
- Meddylfryd, cymhelliant a gwydnwch: gwella dyfalrwydd, ymdrech ac agwedd
- hunanddisgyblaeth a metawybyddiaeth: helpu myfyrwyr i feddwl yn glir ac yn gyson
- Ymddygiad myfyrwyr: annog arferion a phrosesau cadarnhaol ymysg myfyrwyr
- Agweddau, disgwyliadau ac ymddygiadau athrawon: mabwysiadu arferion ystafell ddosbarth cadarnhaol
- Rhieni: sut mae dewisiadau ac ymddygiad rheini yn effeithio ar ddysgu eu plant
- Rhagfarn meddwl: osgoi arferion meddwl diffygiol sy’n amharu ar ddysgu
Battle Hymn of the Tiger Teachers: The Michaela Way, 2016
- Yn Michaela, mae athrawon yn meddwl yn wahanol, gan wrthdroi llawer o’r syniadau sydd wedi dod yn uniongrededd mewn ysgolion Saesneg. Yn y llyfr hwn, mae dros 20 o athrawon Michaela’n archwilio syniadau dadleuol sy’n gwella bywydau disgyblion o gefndiroedd difreintiedig.