Ysgol Rithwir Abertawe

Beth yw Dysgu Cyfunol a Dysgu o Bell?

Dysgu o BellMae dysgu cyfunol yn ddull hybrid sy’n cyfuno cyfarwyddyd traddodiadol yn yr ystafell ddosbarth â dysgu ar-lein. Gall dysgu cyfunol amrywio o deithiau maes i gefnogi disgyblion gartref a lleoliadau eraill.

Mae dysgu o bell yn cyfeirio at unrhyw fath o addysg sy’n digwydd o bell heb fod angen rhyngweithio corfforol wyneb yn wyneb rhwng athro a disgybl.

Mae addysg gartref yn arferiad o addysgu plant gartref yn hytrach nag mewn lleoliad ysgol traddodiadol, yn ogystal â chefnogi plant gartref ag addysg ychwanegol ynghyd â’u gwaith ysgol.

A yw eich plentyn yn dysgu gartref drwy ddysgu cyfunol neu o bell yn Abertawe? Mae gennym rai adnoddau, cefnogaeth a chyngor defnyddiol a allai eich helpu.

Mae athrawon, academyddion a staff addysg yn Abertawe wedi dod ynghyd i greu a rhannu rhai adnoddau ardderchog i’ch helpu gyda dysgu cyfunol ac o bell.

Gweithio o gartref? Yr ydym wedi curadu detholiad o gyrsiau ar-lein ac adnoddau sydd ar gael am ddim i athrawon, academyddion, a staff addysg.

Diolchiadau

Diolch AbertaweByddwn ni eisiau caiff Ysgol Rithwir Abertawe ei diweddaru’n rheolaidd i ddarparu’r adnoddau gorau posibl i rieni, gofalwyr, athrawon, academyddion a staff addysg.

Nid yw ein safle yn disodli unrhyw waith y mae ysgolion a staff addysgu yn ei ddarparu’n uniongyrchol i’w disgyblion. Heb y staff addysgu, ni fyddai dim o hyn yn bosibl.

Hoffem ddiolch i’r holl rieni, gofalwyr, athrawon, academyddion a staff addysg am eu cymorth gyda ysgol rithwir Abertawe a hefyd gyda’r bobl ifanc y maent yn gofalu mor angerddol drostynt. Cadwch yn ddiogel. ♥

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch neu os oes angen y wybodaeth arnoch mewn fformat amgen e.e. print bras ac ati, cysylltwch â [email protected].